
Coronafeirws: yr hyn y mae angen i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig ei wybod
- Ansicrwydd busnes a chyllid personol
- Sut y gallwn helpu
- Canllawiau busnes a chyllid personol
- Cysylltwch â Rhian Hughes
Ansicrwydd busnes a chyllid personol
Mae llawer o bobl yn y DU yn wynebu ansicrwydd wrth i sefyllfa Covid-19 ddatblygu, yn anad dim o ran eu lles ariannol.
Mae hwn yn amser allweddol i gyfathrebu â’ch gweithwyr ar faterion fel tâl, cyfraniadau pensiynau a lles cyffredinol.
Os yw’ch busnes yn wynebu ailstrwythuro, gwerthu neu ansolfedd, neu gyda staff ar ffyrlo, mae hyn yn achosi pryder naturiol. I rai o’ch gweithlu, gall y newidiadau arwain at ddiswyddo, adleoli, ailhyfforddi neu ymddeol yn gynnar, ond bydd hefyd yn dod ag angen i adolygu eu sefyllfa ariannol a chwestiynau ynghylch y ffordd orau o drin yr effaith ar eu cyllid.
Sut y gallwn helpu
Sefydlwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) gan y llywodraeth, ac mae’n helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.
Arweiniad ariannol diduedd am ddim
Rydym yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad diduedd ac am ddim ar bensiynau a materion arian, ynghyd â chefnogi darparu ac ariannu cyngor ar ddyledion. Gallwch gysylltu â MaPS ar draws ystod o sianeli gydag unrhyw gwestiwn neu fater yn ymwneud ag arian a phensiwn a allai fod gennych.
Ni fyddwn yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud na pha gynhyrchion y dylech eu dewis, ond byddwn yn eich helpu i feddwl am y goblygiadau a, phan fydd angen, siarad â chi ar sut y gallwch gael gafael ar gyngor ariannol rheoledig ac aros yn ddiogel yn eich trafodion ariannol.
Diogelwch rhag sgamiau
Rydym yn gweithredu o dan nifer o frandiau. Ni fydd ein gwasanaeth byth yn cysylltu â chi ar hap, argymell unrhyw gynnyrch ac mae’n anghyfreithlon i bersonadu MaPS, Pension Wise, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Rydym yn gwybod pan fydd ardaloedd lleol yn cael eu heffeithio gan fusnes mawr yn cau neu newid mewn cynllun pensiwn gall pobl ddod yn darged ar gyfer ymarfer diegwyddor. Ein rôl yw cynnig lle diogel i fynd am unrhyw bryderon arian neu bensiwn efallai sydd gennych.
Parhad busnes, yn hygyrch o bell
Trwy gydol y cyfnod ansicr hwn, bydd ein ffocws yn parhau i fod ar gyflawni i’n cwsmeriaid a helpu pawb i gwneud y mywaf o’u harian a phensiynau.
Mae ein gwasanaethau ar gael trwy amrywiaeth o sianelu, fel ar-lein, trwy rhadffôn, gwe sgwrs, TypeTalk a WhatsApp.
HelpwrArian
www.moneyhelper.org.uk/cy
Llinell gymorth HelpwrArian: 0800 765 1012
Mae HelpwrArian yma i wneud eich arian a’ch dewisiadau pensiwn yn gliriach.
Yma i’ch rhoi mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd sydd ar eich ochr chi, gyda chymorth y llywodraeth ac am ddim i’w ddefnyddio.
Sefydlir y gwasanaeth gan y llywodraeth ac mae’n cael ei dalu amdano trwy ardoll statudol ar y diwydiant gwasanaethau ariannol, a godir trwy’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ei amcanion statudol yw i wella dealltwriaeth a gwybodaeth y cyhoedd am faterion ariannol (gan gynnwys system ariannol y DU); ac i wella gallu aelodau o’r cyhoedd i reoli materion ariannol eu hun.
Canllawiau busnes a chyllid personol
Ddim yn gwybod ble i ddechrau gyda rheoli arian? Rhowch gynnig ar ein Teclyn Llywio Ariannol am gynlluniau gweithredu yn seiliedig ar eich sefyllfa.
Am fwy o wybodaeth am y teclyn a sut i’w rannu gyda’ch gweithwyr a chwsmeriaid, lawrlwythwch ein pecyn cymorth Teclyn Llywio Ariannol.
Mae ein gwefannau a wefannau ein partneriaid yn cynnwys canllawiau a theclynnau gall fod yn ddefnyddiol, ar bynciau yn cynnwys:
Coronafeirws
Mae ein canllawiau cam wrth gam yn cynnwys pethau syml y gallech wneud i reoli eich arian yn ystod y cyfnod hwn, os ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n poeni am golli eich swydd.
- Coronafeirws – yr hyn y mae’n ei olygu i chi a’r hyn sydd gennych hawl iddo
- Coronafeirws a’ch arian
- Canllaw i wyliau talu morgais
- Yr hyn i’w wneud pan fydd rhywun yn marw
Dileu swydd
- Y Llawlyfr Dileu Swydd (ar gael hefyd fel canllaw wedi’i argraffu a PDF yn Saesneg)
- A cyfrifiannell tâl dileu swydd
- Canllaw i wneud y mwyaf o’ch tâl dileu swydd
- Gwybodaeth am fudd-daliadau a chredydau treth pan fyddwch wedi colli’ch swydd
- Gwybodaeth am effaith dileu swydd ar bensiynau (yn Saesneg)
- Defnyddio taliad dileu swydd i gyfrannu i bensiwn (PDF yn Saesneg)
Cyngor ar ddyledion
Ni yw’r ariannwr fwyaf o gyngor am ddyled yn Lloegr. Darganfyddwch o ble y gallwch gael cyngor am ddyled am ddim waeth ble yr ydych yn y DU.
Ble i ddod o hyd i gymorth os ydych mewn dyled
Pensiynau a buddsoddiadau
Mae’r canllawiau pensiwn hyn yn helpu eich gweithwyr i osgoi brysio mewn i benderfyniadau am ymddeoliad, ac yn helpu i gadw’ch arian yn ddiogel o sgamiau:
- Coronafeirws: sut fydd hwn yn effeithio ar fy mhensiwn neu fuddsoddiadau? (yn Saesneg)
- Canllaw sgamiau pensiwn (PDF yn Saesneg)
Cymorth i fusnesau, y rhai sy’n hunangyflogedig ac i fasnachwyr unigol
Mae’r Llywodraeth a phartneriaid rydym yn eu hariannu fel Business Debtline wedi cyhoeddi canllawiau ariannol Covid-19 i fusnesau a phobl sy’n hunangyflogedig, yn cynnwys pynciau fel cyfraddau busnes, ffyrlo, grantiau a thaliadau treth.
- Hawlio am gyflogau trwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
- Canllaw coronafeirws Business Debtline i fusnesau a masnachwyr unigol (yn Saesneg)
- Cymorth Llywodraeth am fusnesau (yn Saesneg)
- Arweiniad Llywodraeth i weithwyr (yn Saesneg)
- Canllaw cofrestru awtomatig a chanllaw cyfraniadau pensiwn DC y Rheoleiddiwr Pensiynau i gyflogwyr
- Tâl Salwch Statudol: canllaw llywodraeth i gyflogwyr
- Grantiau’r llywodraeth i bobl hunangyflogedig
Cysylltwch â Rhian Hughes
Mae gan Rhian dros 18 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda cynhwysiant ariannol a mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
Cysylltwch â Rhian Hughes i gael cefnogaeth am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu chi i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.